Ar ôl cynnal digwyddiadau llwyddiannus dros y blynyddoedd blaenorol, mae Adran Ystadau ac Eiddo ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn cynnal gweithdy galw heibio anffurfiol ar y cyd ar gyfer contractwyr ac ymgynghorwyr, un yng Ngogledd y Sir ac un yn y De.
Mae digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr yn gyfle i gyflenwyr gyflwyno eu hunain i brynwyr sector cyhoeddus a dysgu am brosiectau, contractau, fframweithiau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd. I brynwyr, mae'r digwyddiadau hyn yn eu galluogi i gynyddu eu cronfa o gyflenwyr posibl ac ehangu eu cadwyni cyflenwi. Beth bynnag yw maint y busnes, mae'r digwyddiadau hyn yn ddefnyddiol i'w mynychu wrth ystyried bidio am gyfleoedd contractio yn y dyfodol, gan eu bod wedi'u cynllunio'n benodol i helpu cyflenwyr gyda'r broses dendro. Fel prynwyr, gallwn helpu cyflenwyr a darparwyr i ddeall yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a gallwn roi cipolwg ar gynigion a sut y byddant yn cael eu gwerthuso o safbwynt caffael.
Bydd y timau canlynol ar gael ar y diwrnod, ymunwch â ni i 'gwrdd â'r timau', cael coffi a rhwydweithio:
- Ystadau & Cyfalaf BIAP
- Rheolwyr Prosiectau
- Caffael GIG Cymru
- Eiddo BIAP
- Yr Amglylchedd BIAP
- Priffyrdd & Thrafnidiaeth CSP
- Dyluniad peirianneg CSP
- Gwasanaethau Masnachol
- Dyluniad Adeiladau
- Tai CSP
De Powys
Pryd: Dydd Mercher 16eg Hydref 2024 10:00-15:00.
Ble: The Barn at Brynich Brynich ABERHONDDU, Powys, LD3 7SH
Gogledd Powys
Pryd: Dydd Mercher 23ain Hydref 2024 10:00-15:00.
Ble: Theatr Hafren, Campws y Drenewydd, Ffordd Llanidloes, Y DRENEWYDD SY16 4HU
Am holl ymholiadau: Admin.Estates.Powys@wales.nhs.uk / 01874 712679
commercialservices@powys.gov.uk / 01597 827686
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Cyngor Sir Powys Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr (business-events.org.uk)
Cyhoeddwyd gyntaf
15 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
15 Hydref 2024