- 14 Hydref 2024, 08:45 - 10:30
Canolfan Fusnes Môn, Llangefni, LL77 7XA
- 17 Hydref 2024, 08:45 - 10:30
Menter Môn, Porthmadog, LL49 9NU
- 22 Hydref 2024, 08:45 - 10:30
Canolfan Fusnes Conwy, Llandudno Junction, LL31 9XX
- 12 Tachwedd 2024, 08:45 - 10:30
Hwb Dinbych, Denbigh, LL16 3RG
- 27 Tachwedd 2024, 08:45 - 10:30
Canolfan Fusnes Maes Glas, Holywell, CH8 7GR
- 5 Rhagfyr 2024, 08:45 - 10:30
Tŵr Rhydfudr, Wrexham, LL13 9XR
Morlais yw prosiect ynni llif llanw Menter Môn. Mae'r prosiect yn rheoli ardal o 35km2 o wely'r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn ac mae ganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 240 MW o drydan glân carbon isel.
Mae ein tîm cadwyn gyflenwi yn ymroddedig i weld busnesau rhanbarthol yn ffynnu o'r cyfleoedd caffael sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Boed hynny gyda Morlais yn uniongyrchol neu ein cymuned o ddatblygwyr.
Bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau yn caniatáu rhwydweithio ymhlith y gymuned fusnes ac yn trafod sut y bydd y prosiect yn meithrin perthynas strategol â busnesau rhanbarthol.
Os hoffech chi gael sesiwn 1:1 hefo ni yn ystod y bore, plis gadewch i ni wybod ac mi wnawn ni ddod yn nol atoch chi i gynnig amser i chi.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Cwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru sydd am ehangu eu cyfleoedd o fewn y sector ynni adnewyddadwy.
Beth fydd y digwyddiad yn ei gynnwys?
Cyfleoedd rhwydweithio gyda thîm cadwyn gyflenwi Morlais
Deall cadwyn gyflenwi'r llif llanw a'i gofynion
Trafod uwchsgilio'ch gweithlu presennol a chreu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol
Sut i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn eich busnes
Cliciwch ar y linc isod i archebu eich lle: Business Wales Events Finder - Morlais Rhwydweithio Rhanbarthol (business-events.org.uk).
Cyhoeddwyd gyntaf
03 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
03 Hydref 2024