Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

System Brynu Ddeinamig (DPS) Adnoddau Naturiol ar gyfer Contractau Llywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2023, sefydlwyd System Brynu Ddeinamig (DPS) newydd ar gyfer Adnoddau Naturiol gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio gan bob adran o fewn Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 Medi 2024

Ym mis Tachwedd 2023, sefydlwyd System Brynu Ddeinamig (DPS) newydd ar gyfer Adnoddau Naturiol gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio gan bob adran o fewn Llywodraeth Cymru, gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Glo ac, os oes angen, sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflenwyr allweddol yn y categori Adnoddau Naturiol i wneud cais am le ar y DPS Adnoddau Naturiol. 

I wneud cais, dilynwch y canllawiau a ddarperir yn yr hysbysiad GwerthwchiGymru Gweld – GwerthwchiGymru (llyw.cymru)

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r DPS ar gyfer y gofynion amgylcheddol canlynol dros y tri mis nesaf:

  • C055/2024/2025 - Hyfforddiant Cynllun Rheoli Coetir c. £150 -£180,000.00

Mae defnyddio'r DPS yn darparu nifer o fanteision, gan gynnwys platfform parod ar gyfer caffael ymchwil, gostyngiad o ran amser i gaffael ar gyfer y sefydliad prynu a'r cyflenwr, cyfleoedd i gyflenwyr newydd wneud cais dros gyfnod y DPS a gwell deallusrwydd busnes.

Mae'r DPS Adnoddau Naturiol yn fyw nawr ac yn dod i ben ym mis Hydref 2027. Byddem yn annog eich sefydliad i wneud cais am y DPS fel nad ydych yn colli'r cyfle i wneud cais am ein contractau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â mi drwy gerrard.oneill@llyw.cymru


Cyhoeddwyd gyntaf
17 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf
17 Medi 2024
System Brynu Ddeinamig (DPS) Adnoddau Naturiol ar gyfer Contractau Llywodraeth Cymru

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.