Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw ei bod am ohirio cyflwyno'r drefn gaffael newydd o dan y Ddeddf Gaffael. Y dyddiad dechrau newydd i bob awdurdod contractio sy'n dod o dan y Ddeddf (gan gynnwys awdurdodau contractio yng Nghymru) fydd 24 Chwefror 2025.
Beth mae hyn yn ei olygu i randdeiliaid yng Nghymru?
Hoffem ddiolch i'r rhanddeiliaid yng Nghymru am eu holl waith i gael eu hunain yn barod ar gyfer y dyddiad dechrau gwreiddiol o fis Hydref eleni. Gobeithio y bydd yr oedi byr hwn yn rhoi mwy o amser i awdurdodau contractio yng Nghymru ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer y diwygiadau ac i gyflenwyr ddod i ddeall y drefn newydd yn well.
Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Dylai awdurdodau contractio yng Nghymru barhau i roi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau ar gyfer rhoi'r diwygiadau caffael hyn ar waith. Rydym wedi datblygu 'rhestr wirio cyn gweithredu' a dogfen o'r enw "Paratoi ar gyfer deddfwriaeth caffael newydd yng Nghymru" i helpu awdurdodau contractio yng Nghymru gyda'u paratoadau.
Dylai cydweithwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru barhau i fanteisio ar yr hyfforddiant sy'n cael ei gynnig am y drefn newydd. Mae hyfforddiant e-Ddysgu Llywodraeth Cymru yn ategu hyfforddiant craidd Llywodraeth y DU, i helpu unrhyw un yn sector cyhoeddus Cymru sydd am ddeall cefndir y ddeddf gaffael newydd yng Nghymru. Ceir rhagor o fanylion yma.
Yn olaf, rydym yn dal wrthi'n datblygu nifer o ganllawiau i helpu awdurdodau contractio yng Nghymru i baratoi ar gyfer y drefn gaffael newydd.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych chi'n adnabod rhywun fyddai'n gwerthfawrogi cael yr e-byst hyn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar ProcurementReformTeam@gov.wales.
Cyhoeddwyd gyntaf
12 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
12 Medi 2024