Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru: Digwyddiad Cwrdd a Chontractwyr y Fframwaith

Dyddiad y Digwyddiad: 27 Medi 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
05 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
13 Medi 2024

Mae Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad i gefnogi’r gadwyn fyflenwi a chynnig cyfle i rwydweithio gyda’n contractwyr fframwaith.  Ein nod i’w yw denu is gontractwyr a chyflenwyr ir digwyddiad hwn lle bydd ein contractwyr fframwith a’n partneriaid rhanbarthol ar gael ar gyfer trafodaethau am flfleoedd yn y dyfodol a philblinell waith. 

Mae Busnes Cymru yn cefnogi Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru gyda digwyddiad ymgysylltu a fydd yn cael ein gynnal ar 27ain o Fedi yn cychwyn am 9.30yb tan 12yp yng Nghanolfan yr OpTIC ym Mharc Busnes Llanelwy, Ffordd William Morgan, Llanelwy  LL17 0JD.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac nid oes angen tocynnau.

Mae deunaw cwmni adeiladu wedi'u penodi i'r trydydd rhifyn o fframwaith adeiladu gwerth £600 miliwn yn dilyn proses dendro gystadleuol, gyda 13 o'r 18 cwmni wedi'u penodi yng Ngogledd Cymru.

Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru 3 (NWCP3) yw trydydd rhifyn y CGCP2 llwyddiannus, a grëwyd ar y cyd gan chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Nod NWCP3 yw sicrhau gwerth am arian a'r buddion sy'n gysylltiedig â pherthynas gydweithredol hirdymor. Mae wedi'i adeiladu ar ethos o fod yn agored, tryloywder a hyblygrwydd a gyflawnir trwy gyfathrebu ac ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid.


Cyhoeddwyd gyntaf
05 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
13 Medi 2024
Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru: Digwyddiad Cwrdd a Chontractwyr y Fframwaith

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.