Cyfres newydd o ddigwyddiadau gan Busnes Cymru, yn cefnogi'r Economi Sylfaenol yng Nghymru.
Archwiliwch gyfleoedd lleol ar gyfer eich busnes yn ein Harddangosiadau unigryw a gyflwynir gan y tîm Economi Sylfaenol a Busnes Cymru.
Gyda ffocws ar sectorau economi sylfaenol allweddol fel bwyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu a datgarboneiddio trafnidiaeth, gan gynnwys llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig sy'n cyflenwi ac yn darparu ar gyfer y sectorau hyn, mae rhywbeth at ddant pawb.
Ymunwch â ni ar gyfer Expo Busnes Cymru chwyldroadol, rhad ac am ddim i’w fynychu, lle byddwch yn cael cyfle unigryw i gymryd rhan mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb un-i-un gyda sefydliadau blaenllaw Cymru sy’n awyddus i wella eu cadwyni cyflenwi lleol.
Manylion digwyddiadau isod:
- 10 Medi 2024 – Arena Abertawe
- 2 Hydref 2024 – Venue Cymru Llandudno
Pam y dylech fynychu:
- Archwiliwch gyfleoedd gyda phrynwyr blaenllaw Cymru, a dewch o hyd i gyfleoedd byw a allai fod o fudd i’ch busnes.
- Rhwydweithiwch â phrynwyr mawr a chefnogwch sefydliadau ar hyd a lled amryw ddiwydiannau sydd wrthi’n chwilio am bartneriaethau gyda busnesau bach.
- Effaith ar y gymuned: Gall eich cyfranogiad helpu i hybu cyflogaeth leol a chyfrannu at dwf economaidd eich rhanbarth.
- Ymwelwch â’r Parthau Cymorth a Dysgu i gael gwybodaeth am y broses o ganfod prosiectau ac ymgeisio amdanynt, a’u hennill. Ewch ati i uwchsgilio eich busnes mewn meysydd fel datgarboneiddio, yr economi sylfaenol, a strategaethau i hybu twf eich busnes.
Fel perchennog busnes, rydym yn deall bod eich amser yn brin. Fodd bynnag, mae’r manteision posib o ganlyniad i fynychu’r digwyddiad hwn yn sicrhau ei fod yn werth y buddsoddiad. Dyma gyfle i ehangu eich busnes, canfod cyfleoedd newydd, meithrin partneriaethau newydd a chyfrannu at ffyniant eich economi leol.
Cofrestrwch nawr i gysylltu â phrynwyr a chyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch busnes a'ch setiau sgiliau!
Cliciwch ar y ddolen sydd wedi’i hatodi i gael rhagor o wybodaeth: Business Wales Expo
Cyhoeddwyd gyntaf
22 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
13 Medi 2024