Mae Procurex Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n helpu gweithwyr caffael proffesiynol i gael gwell canlyniadau i'w sefydliadau yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau ledled Cymru.
Bydd digwyddiad 2024, a gyflwynir ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau sydd eisoes yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus ynghyd â’r rhai sy'n awyddus i ehangu i sectorau neu feysydd gwasanaeth newydd.
Bydd cyfres o gyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol gan arbenigwyr gwadd yn ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd ac AI i sbarduno effeithlonrwydd a sut mae sicrhau gwell canlyniadau llesiant trwy gaffael a chontractau.
I gyd-fynd â rhaglen y gynhadledd, bydd arddangosfa gan gyflenwyr a darparwyr blaenllaw o amrywiaeth o sectorau sydd ag enw da o ran rhoi gwerth am arian i sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Cynhelir y digwyddiad ar 5 Tachwedd 2024 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.
Caiff sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector fynediad yn rhad ac am ddim, codir tâl am docynnau sector preifat.
Ar 28 Hydref 2024, bydd y newidiadau a nodir yn Neddf Caffael 2023 yn dod i rym. Dewch i Procurex Cymru 2024 er mwyn dysgu beth yn union fydd hyn yn ei olygu i chi fel gweithiwr caffael proffesiynol neu fel sefydliad sy'n ceisio gwella'r ffordd rydych chi'n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan - Procurex Cymru 2024
Cyfleoedd contractau sector cyhoeddus yng Nghymru
Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)
Cyhoeddwyd gyntaf
19 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
13 Medi 2024