Eich cyfle i hyrwyddo'ch busnes i Gyngor Sir Caerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu'n rhagweithiol â busnesau bach a chanolig lleol, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau lleiafrifol wrth gyflawni'r fenter ymgysylltu â chyflenwyr hon.
Mae'r Cyngor yn awyddus i weld busnesau bach a chanolig yn cystadlu am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i'r ddau awdurdod.
Bydd Swyddogion Caffael a Datblygu Economaidd ar gael i gynnig gwybodaeth a chymorth ar gyfleoedd masnachu presennol ac yn y dyfodol, cymorth busnes a chyllid grant.
Bydd Cymhorthfa Caffael a Busnes yn cael ei chynnal yn:
- Canolfan Busnes Parc y Bocs, Cydweli - 21 Mai 2024
- Y Plough, Llandeilo – 4 Mehefin 2024
- Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn – 18 Mehefin2024
- Y Gat, San Cler –2 Gorffenaf2024
- Clwb Rygbi Llanymddyfri, Llanymddyfri – 16 Mehefin 2024
- Canolfan Hywel Dda, Hendy Gwyn ar Daf – 30 Mehefin 2024
Er hwylustod i chi ac i sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth, archebwch apwyntiad 30 munud drwy gysylltu â:
Kim Baker
Ffôn: 01267 246241
E-bost: kbaker@carmarthenshire.gov.uk
Cyhoeddwyd gyntaf
26 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
26 Ebrill 2024