Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Tri chwmni o Gymru wedi’u dewis ar gyfer rhaglen F4OR gwynt arnofiol ar y môr gyntaf ORE Catapult yn

Tri chwmni o Gymru wedi’u dewis ar gyfer rhaglen F4OR gwynt arnofiol ar y môr gyntaf ORE Catapult yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf:
08 Mawrth 2024

 Mae Ledwood Mechanical Engineering, Mainstay Marine Solutions a CELSA Steel UK wedi cael eu henwi fel y tri chwmni o Gymru a ddewiswyd i gymryd rhan yn rhaglen gyntaf Fit 4 Offshore Renewables (F4OR) yng Nghymru.

 

Bydd F4OR Cymru yn cael ei chyflwyno gan Offshore Renewable Energy Catapult, mewn partneriaeth â Floventis Energy, sef datblygwr Llŷr 1 a 2 yn y Môr Celtaidd, ac mae’r rhaglen wedi’i dylunio’n benodol i gefnogi cwmnïau lleol sy’n gwneud cais am waith yn y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr.

 

Dywedodd Davood Sabaei, rheolwr prosiect F4OR yn ORE Catapult: “Ar ôl ymateb enfawr i’n galw am gwmnïau o Gymru, rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r tri chwmni rhagorol sydd wedi’u dewis ar gyfer F4OR Cymru ac sy’n arwain y ffordd o ran bod yn rhan o gadwyn gyflenwi o’r radd flaenaf. Dyma’r tro cyntaf i’n rhaglen F4OR gael ei theilwra’n benodol ar gyfer y farchnad ynni gwynt arnofiol, ac mae F4OR Cymru wedi’i llunio i roi’r sgiliau a’r arbenigedd i fusnesau sicrhau llwyddiant yn y sector hwn sy’n tyfu’n gyflym.”

 

CELSA o Gaerdydd yw prif gynhyrchydd dur cylchog ac allyriadau isel Ewrop, ac mae’n ailgylchu sgrap fferrus i gynhyrchu dur mewn ffwrneisi arc trydan, gan ddefnyddio technoleg ynni-effeithlon.  Bydd F4OR yn rhoi’r cyfle i CELSA ddatblygu arbenigedd yn y sector ynni adnewyddadwy ac mae nawr yn paratoi i gyflenwi deunyddiau, gwasanaethau saernïo a gwasanaethau gosod fel rhan o’r gadwyn cyflenwi ynni gwynt arnofiol ar y môr. 

 

Mae Mainstay Marine Solutions wedi’i leoli yn Noc Penfro ac mae ganddo hanes hir o adeiladu cychod, peirianneg a gwasanaethau morol. Mae ei gyfleusterau’n cynnwys gweithdai, neuaddau newydd, basn gwlyb, pum llithrfa, a theclyn codi 160t, ac mae ganddo dîm cryf o 65 o bobl yn cynnwys penseiri’r llynges, peirianwyr, weldwyr, gwneuthurwyr, gosodwyr a pheintwyr.

 

Hefyd yn Noc Penfro, mae Ledwood Mechanical Engineering yn cyflogi 250 o bobl ac yn darparu gwasanaethau mecanyddol a saernïo i’r sectorau ynni a phetrogemegol. Ar ôl cael statws Fit for Nuclear gan Nuclear AMRC, mae Ledwood ar hyn o bryd yn gweithio ar raglen adeiladu gorsafoedd niwclear newydd y DU gan gynnwys gosod offer, darparu pibellau gwaith dur gwrthstaen a chodi gwaith dur carbon.

 

Dywedodd Nick Revell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Mechanical Engineering: “Mae’n fraint cael ein dewis ar gyfer F4OR Cymru, ochr yn ochr â Mainstay a CELSA, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at baratoi ein busnes ar gyfer y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr sy’n datblygu. Rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain rhai o fanteision rhaglenni’r diwydiant, gan fod Fit For Nuclear wedi ein helpu ni i baratoi cynnig llwyddiannus ar gyfer gwaith yn y gadwyn gyflenwi niwclear; gan feincnodi ein perfformiad yn erbyn y safonau a fynnir gan haenau uchaf y diwydiant niwclear a sbarduno gwelliannau busnes drwy gynllun gweithredu wedi’i deilwra.

 

“Mae ein treftadaeth yn golygu bod gennym ddealltwriaeth unigryw o’r cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn Ne Orllewin Cymru ac rydyn ni’n awyddus i ddefnyddio ein sgiliau a’n galluoedd trosglwyddadwy i gefnogi prosiectau fel Llŷr 1 a 2 i greu gwaith cynaliadwy hirdymor yn lleol.”

 

Ychwanegodd Cian Conroy, Pennaeth Datblygu Prosiectau y DU ac Iwerddon ar gyfer Floventis Energy: “Prosiectau profi ac arddangos fel Llŷr 1 a 2 fydd yn adeiladu diwydiant gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru, felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.

 

“Rydyn ni’n falch iawn bod cynifer o gwmnïau gwych wedi rhoi o’u hamser i wneud cais ar gyfer y rhaglen ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Ledwood, Celsa a Mainstay Marine ar raglen F4OR dros y misoedd nesaf i’w paratoi ar gyfer y cyfleoedd yn y Môr Celtaidd a thu hwnt.”

Mae cynlluniau ar gyfer carfannau F4OR Cymru yn y dyfodol eisoes ar y gweill a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

 

Mae F4OR yn rhaglen 12-18 mis, wedi’i llunio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y diwydiant, ac mae wedi cael llwyddiant eang ledled y DU ers iddi ddechrau yn 2019. Hyd yma, mae pum rhaglen ranbarthol F4OR wedi cael eu cyflwyno yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Dwyrain Anglia a Suffolk, ochr yn ochr â rhaglenni cenedlaethol sy’n cael eu cynnal ledled yr Alban ac ar draws y DU. Mae dros 110 o gwmnïau wedi cael cymorth, gyda chyfranogwyr yn profi cynnydd cyfartalog o 28% mewn trosiant a llawer yn sicrhau amrywiaeth eang o gontractau newydd.

Gwybodaeth am Offshore Renewable Energy Catapult

ORE Catapult yw prif ganolfan arloesi’r DU ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr. Sefydlwyd yn 2013 gan Lywodraeth y DU fel rhan o rwydwaith o gatapyltiau a sefydlwyd gan Innovate UK mewn diwydiannau twf uchel.

Mae ORE Catapult yn annibynnol ac yn ddibynadwy, ac mae ganddo gyfuniad unigryw o gyfleusterau profi ac arddangos, ac arbenigedd peiriannu ac ymchwil. Mae ORE Catapult yn ymgasglu'r sector, gan ddarparu ymchwil gymhwysol, cyflymu datblygiad technoleg, lleihau risg a chost, a gwella twf economaidd ledled y DU.

Mae ORE Catapult yn gweithredu yn Glasgow, Blyth, Levenmouth, Aberdeen, Humber, Dwyrain Lloegr, De Orllewin Lloegr a Chymru, ac mae’n gweithredu partneriaeth ymchwil gydweithredol yn Tsieina.

 

https://ore.catapult.org.uk/

Gwybodaeth am Floventis

Mae Floventis yn fenter ar y cyd a ffurfiwyd yn 2021 gan Cierco a SBM Offshore. Mae SBM, sydd â’i bencadlys yn Amsterdam, yn fusnes ynni ar y môr rhyngwladol blaenllaw sydd â 60 mlynedd o hanes o arloesi ar y môr. Mae ganddo weithlu o 7,000 a refeniw sy’n fwy na $2.3 biliwn mewn doleri America. Mae gan Cierco swyddfeydd yn yr Alban a California ac mae’n gwmni datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy annibynnol a sefydlwyd yn 2001. Mae’r prosiectau’n amrywio o ddefnyddio dangoswyr am y tro cyntaf i araeau masnachol a rhagfasnachol mwy.

Mae Datblygiadau Llŷr (a elwir yn Llŷr 1 a Llŷr 2), sy’n cael eu datblygu gan Floventis, wedi’u lleoli tua 31km oddi ar arfordir Sir Benfro, a byddant yn pweru tua 200,000 o gartrefi gyda 200MW o ynni glân a gwyrdd pan fydd yn weithredol erbyn 2027.  Bydd pob un o brosiectau Llŷr yn cynnwys hyd at ddeg tyrbin.

 

https://floventis.com

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Irene MacKinnon, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus, 07563 393412, irene.mackinnon@ore.catapult.org.uk

Lisa Jenkins, 07908738763 media@ciercoenergy.com 

 


Cyhoeddwyd gyntaf
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf
08 Mawrth 2024
Tri chwmni o Gymru wedi’u dewis ar gyfer rhaglen F4OR gwynt arnofiol ar y môr gyntaf ORE Catapult yn

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.