Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog
cyflenwyr allweddol yn y categori Ymchwil, gan gynnwys pob prifysgol, i wneud
cais i gofrestru gyda System Brynu Ddeinamig Ymchwil a Mewnwelediadau
Gwasanaeth Masnachol y Goron sy'n darparu ymchwil i gyrff cyhoeddus ledled y
DU. Lle bo'n briodol, byddwn yn tendro ar gyfer yr holl ofynion ymchwil
gwerth dros £25,000 drwy'r system hon hyd nes y daw i ben ym mis Rhagfyr 2025 a
byddem yn annog eich sefydliad i gofrestru gyda'r system fel nad ydych yn
colli'r cyfle i wneud cais am ein contractau. Gellir dod o hyd i fanylion am sut i gofrestru mewn Erthygl Newyddion
flaenorol.
I'r rhai sydd â
diddordeb mewn cymryd rhan, rydym wedi cyhoeddi dros 70 o gystadlaethau yn ôl y
gofyn, gyda chontractau'n amrywio o £25,000 i £2m i gefnogi holl feysydd polisi
Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau o'r contractau a ddyfarnwyd hyd yn hyn yn
cynnwys:
Gwerthuso'r
Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol
Astudiaeth
Ddichonoldeb ar gyfer Cyfleuster Cynhyrchu Radioisotopau
Ymchwil
gyda Phreswylwyr Adeiladau Amlfeddiannaeth
Seibergadernid
ym maes Addysg
Arolwg
Ymwelwyr Cymru
Ymgynghoriad
ar Sgiliau'r Sector Sero Net
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r
system ar gyfer y gofynion canlynol sydd ar y gweill dros y 3 i 6 mis nesaf:
C059/2024/2025 - Gwerthusiad: Gweithgareddau
Atgyweirio ac Ailddefnyddio – hyd at £90,000 (heb gynnwys TAW) – Haf/Hydref
2024
C042/2024/2025
- Gwerthusiad Proses o Gyllid Ysgolion Bro (I'w gadarnhau) – hyd at £100,000
(heb gynnwys TAW) – Contract 10 mis – Hydref 2024
C074/2024/2025
- Adolygiad o Gynaliadwyedd Cyllid Iechyd Tymor Canolig a Hir yng Nghymru – hyd
at £100,000 (heb gynnwys TAW) – Contract 9 mis – Hydref 2024
Os oes gennych unrhyw
gwestiynau pellach, cysylltwch â mi drwy gerrard.oneill@llyw.cymru
Cyhoeddwyd gyntaf
06 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf
15 Gorffennaf 2024