Cynhaliwyd cyfarfod mwyaf o fusnesau’r sector Preifat a’r sector Cyhoeddus yn Neuadd Ddinas Caerdydd ar y 18fed o Fawrth ar gyfer y digwyddiad Procurex cyntaf i’w gynnal yng Nghymru.
Mynychodd dros 500 o gynadleddwyr, gyda 30 o siaradwyr a 40 o arddangoswyr.
Roedd yn gyfle unigryw ar gyfer y sectorau Cyhoeddus a Phreifat i:
• wella eu gwybodaeth am y mentrau a'r datblygiadau diweddaraf mewn arferion caffael cydweithredol
• gwrdd a throst 40 o gyflenwyr sy’n arddangos eu busnesau ar eu stondinau
• gasglu gwybodaeth am gontractau a fframweithiau sy'n cydymffurfio gyda’r UE sydd ar gael yng Nghymru
• wybod mwy am y broses tendro
• gael cymorth ynglyn â sut mae'r porth GwerthwchiGymru yn gweithio
• ddysgu am bwysigrwydd Manteision i'r Gymuned ym maes caffael cyhoeddus
Roedd yn ddiwrnod llwyddianus ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig ac yn enwedig Llywodraeth Cymru a noddir ac a drefnodd y digwyddiad.
Roedd Busnes Cymru a Gwerthwch i Gymru yn llwyddiannau mawr gyda busnesau, ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’r holl fusnesau.
Roedd pafiliwn canolog hefyd gyda staff o EGT yn rhoi cyngor ac arweiniad tra bod parth Cymorth Busnes Cymru yn cynnig cymorth a gwasanaethau i fusnesau.
Dangoswyd gan unigolion a holwyd o'r digwyddiad fod:
• 99% yn ymadrodd ei fod yn angenrheidiol, yn bwysig neu'n bwysig iawn i ymgysylltu â'r gymuned cyflenwyr a / neu brynwr a phrofi'r atebion / gwasanaethau diweddaraf
• 96% yn barnu bod y pynciau yn y gynhadledd yn dda neu'n ardderchog
• 94% yn dweud fod yr arddangosfa ar y cyfan yn dda neu’n ardderchog
• 83% yn dweud fod cynlluniad y digwyddiad yn dda neu’n rhagorol
• 79% yn dweud fod yr arddangosiad o gynnyrch a gwasanaethau amrywiol yn dda neu’n ardderchog
Cyhoeddwyd gyntaf
04 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2024