Croeso i Hwb Caffael Cydweithredol Cymru.
Mae Hwb Caffael Cydweithredol Cymru yn ddull newydd o gaffael cydweithredol yng Nghymru. Mae'n dwyn ynghyd sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan nodi cytundebau cydweithredol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Gan adeiladu ar waith cydweithredu rhwng Llywodraeth Leol Cymru a thîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gynt), mae'r hwb yn darparu mynediad at fframweithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion cwsmeriaid, sicrhau gwerth am arian, a chofleidio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Rydym yn cynnig nifer o fframweithiau caffael cydweithredol ar gyfer ystod o gytundebau nwyddau, gwasanaethau a gwaith.
Mae llyfryn yn cynnwys manylion ein holl gytundebau fframwaith ar gael yma.
Piblinell Caffael Cydweithredol Cymru
Mae holl weithgaredd caffael cydweithredol Cymru wedi’i gynllunio a’i drefnu yn y Biblinell sydd ar gael i bawb ei weld.
Gall y biblinell newid ac fe'i datblygir i ddiwallu anghenion sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
Strategaethau Caffael Cydweithredol
Gellir gweld ein strategaethau caffael cydweithredol wrth iddynt ddatblygu yma.
Cyflenwyr:
Cyhoeddir pob hysbysiad contract ar pori’r hysbysiadau.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r hysbysiadau contract, cofrestrwch neu mewngofnodwch yma.
Prynwyr:
Os ydych chi'n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru ac yn dymuno caffael nwyddau a gwasanaethau o gontractau a fframweithiau caffael cydweithredol Cymru, cofrestrwch neu mewngofnodwch yma.
Gellir gweld ein holl gytundebau fframwaith ar Gofrestr Contractau GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).