Porth Sign On Cymru
Mae GwerthwchiGymru wedi gwella profiad ar-lein ein defnyddwyr drwy gyflwyno gwasanaeth Sign on Cymru. Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio holl wasanaethau digidol Busnes Cymru gydag un enw defnyddiwr a chyfrinair.
Mae'r gwasanaethau digidol hyn yn cynnwys Busnes Cymru, y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS), y Cyfeirlyfr Rhanddeiliaid, y Cyfeirlyfr Busnes a Phorth GwerthwchiGymru.
Ni all defnyddwyr newid y cyfeiriad e-bost drwy GwerthwchiGymru gan fod yr holl wybodaeth hon yn cael ei storio a'i rheoli drwy Borth SOC.
Sut i newid e-bost ar Borth SOC.
Yn gyntaf mae angen ichi fynd i Borth SOC gan nad ydych yn gallu newid cyfeiriad e-bost drwy borth GwerthwchiGymru.
Dewiswch 'Mewngofnodi' yn y gornel dde uchaf:
Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair GwerthwchiGymru a chliciwch ar Anfon cod dilysu. Dilynwch y broses dilysu er mwyn mewngofnodi i'ch cofnod.
Pan fyddwch wedi mewngofnodi, dewiswch Fy nghyfrif:
O dudalen Fy Nghyfrif, cliciwch ar Diweddaru Cyfeiriad E-bost a nodwch y cyfeiriad newydd yn y dudalen naid sy'n ymddangos.
Bydd neges dilysu e-bost yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost newydd gyda dolen er mwyn cadarnhau hunaniaeth. Bydd e-bost hefyd yn cael ei anfon at fewnflwch yr e-bost cyfredol i gofnodi'r cais.
Gwiriwch eich ffolder sothach / sbam os nad yw wedi cyrraedd eich mewnflwch.
Er mwyn actifadu'r newid hwn, ewch i fewnflwch y cyfeiriad e-bost newydd, dewiswch yr e-bost a anfonwyd atoch gan Borth SOC a chliciwch ar y ddolen a ddarperir a mewngofnodi. Bydd y ddolen yn lawrlwytho tudalen Cadarnhau Diweddaru E-bost a fydd yn gofyn ichi gadarnhau'r newid.
Ar ôl ei gadarnhau, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei newid.
Sylwch ar hyn o bryd ei bod yn cymryd tua 10 munud i newidiadau gael eu gweithredu ar GwerthwchiGymru.