Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw'r wefan GwerthwchiGymru newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw:
- helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru
- helpu prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendr
- helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
- helpu busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd tendro addas
Bob blwyddyn bydd gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon.
Caiff y contractau hyn eu cynnig gan amrywiaeth eang o gyrff sy'n cael eu hariannu drwy ffynonellau cyhoeddus, yn cynnwys:
- Llywodraeth Cymru
- awdurdodau lleol
- ymddiriedolaethau GIG
- colegau a phrifysgolion
Gall y rhai sy'n ennill contractau gynnig cyfleoedd is-gontractio trwy ganfod busnesau addas a'u gwahodd i roi amcanbris am waith a thendro am gontractau.
Ar y safle hwn cewch:
- system sydd wedi ei symleiddio lle fedrwch chi gofnodi cyfleoedd tendr
- cofrestru am ddim a defnydd llawn o'r holl adnoddau i'ch ehlpu chi i chwilio am gyfleoedd tendro
- mynediad at wasanaethau caffael gyda'i gilydd mewn un man
- y gallu i hysbysebu tendrau ac i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus
- rhybuddion e-bost i gyflenwyr o'r cyfleoedd busnes diweddaraf
- gwybodaeth am gontractau a chaffael am ddim
- astudiaethau achos o ddefnyddwyr GwerthwchiGymru
- y cyfle i chwilio am y newyddion a'r digwyddiadau caffael diweddaraf
- cyfathrebu mwy hwylus rhwng prynwyr a chyflenwyr
Canfod mwy am y manteision i gyflenwyr, prynwyr a chontractwyr yma.