Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cwmpas y tendr yw caffael Partner Datblygu er mwyn dylunio, datblygu a chynnal gwesty o safon uchel ar safle Rock Grounds yn Aberdâr.
Bydd gofyn i'r partner datblygu:
1. Cyflawni cynllun datblygu sy'n caniatáu ailddefnyddio'r adeiladau, gan gadw adeilad a nodweddion hanesyddol deniadol Rock Grounds (gan gynnwys y benddelw o Keir Hardie).
2. Darparu gwesty sydd wedi'i ddylunio i safon uchel gyda bwyty, bar a sba a defnydd addas o'r dirwedd o'i gwmpas.
3. Caniatáu ar gyfer gofod sy'n cael ei rannu rhwng yr adeiladau er mwyn creu ymdeimlad o undod, yn unol â'r dyluniad cysyniadol yn Atodiad 2 Gofynion y Cyngor sydd wedi'i gynnwys yn y dogfennau gwahoddiad i dendro (ITT).
4. Mae'r Cyngor yn gofyn i'r dyluniad fod yn unol â'r dyluniad cysyniadol sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2 Gofynion y Cyngor sydd wedi'i gynnwys yn y dogfennau gwahoddiad i dendro (ITT).
5. Cadw a gwella cymeriad ac ymddangosiad Ardal Gadwraeth Canol Tref Aberdâr.
6. Dylai'r gwesty fod â dyfarniad uchel yn rhan o gynllun achrededig megis Cynllun Graddio Ansawdd Croeso Cymru neu gynllun yr AA.
Rhaid i'r gwesty fod yn weithredol yn y 18 mis wedi dyrannu'r contract gyda'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Bydd y Cyngor yna'n ymrwymo i gytundeb prydles fasnachol ar gyfer yr adeilad.
Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar y dogfennau tendr.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=134809
|