Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Caffael Bwyd Cynaliadwy er Ffyniant Lleol
MESUR A DANGOS POTENSIAL BUDDION O RAN CARBON MEWN PERTHYNAS Â DEFNYDDIO HYBIAU BWYD LLEOL I GYFLENWI LLEOLIADAU SECTOR CYHOEDDUS
CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT
Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol.
Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd.
DANGOS BUDD
Nod y prosiect yw:
• Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr lleol.
• Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr sy’n defnyddio dulliau amaethecolegol.
• Darparu data sy’n dangos y gwerth ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o ddefnyddio model hyb bwyd lleol.
Rydym wedi comisiynu dau ymgynghorydd i gofnodi data mewn perthynas â:
- Dwysedd maetholion cynnyrch lleol (a dyfir mewn dull amaethecolegol).
- Cynaliadwyedd effaith hybiau caffael bwyd lleol, a leolir yn y gymuned sy’n cael eu hasesu ar sail fframwaith DLlCD .
Mae darn olaf o ddata yr hoffem ei gofnodi yn ymwneud ag effaith y model o safbwynt carbon.
Yn ogystal, rydym wedi comisiynu Partneriaeth BRO i werthuso’r prosiect a byddwn yn cynnwys y dystiolaeth a ddarperir gan y contractwr sy’n asesu effaith o safbwynt carbon yn yr adroddiad gwerthuso terfynol.
AMLINELLIAD CRYNO
Oherwydd maint sampl bach y prosiect peilot hwn, a’r amserlenni tynn sy’n berthnasol, nid ydym yn rhagweld casglu data cadarn i’w ddefnyddio i brofi effaith eang y model hwn. Er hynny, anelir ein gweithgaredd casglu data at gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am dyfwyr, cwsmeriaid sector cyhoeddus a’r hyb ei hun i adnabod gwelliannau o ran arferion a thechnegau monitro syml i gofnodi data’n barhaus.
Caiff yr holl ddata ei integreiddio i blatfform y Rhwydwaith Bwyd Agored (OFN) er mwyn i gwsmeriaid sector cyhoeddus weld gwerth ychwanegol y cynnyrch maent yn eu prynu.
Dylid defnyddio’r holl ddata a gesglir i ddangos sut gall y model hwn helpu cyrff sector cyhoeddus yn Sir Gâr a Gogledd Powys i wireddu eu nodau mewn perthynas â charbon, bioamrywiaeth, iechyd a’r economi lleol.
Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r prosiect peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr, a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus.
Bydd gofyn i’r contractwr:
• Weithio gyda thyfwyr sy’n rhan o’r prosiect peilot yn Sir Gâr a Gogledd Powys.
• Deall blaenoriaethau’r sector cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru) o ran bodloni targedau carbon.
• Darparu hyfforddiant i’r sefydliadau amrywiol sy’n rhan o’r peilot ar sut i fesur effaith ar garbon.
• Cefnogi tri thyfwr ym mhob ardal i fesur eu heffaith ar garbon.
• Darparu cyngor ac arweiniad i dyfwyr ynghylch sut i leihau eu heffaith ar garbon.
• Coladu a dehongli data mewn fformat defnyddiol er mwyn
o Ei integreiddio i blatfform yr OFN, ac i
o Gael ei ddefnyddio gan gyrff sector cyhoeddus i ddangos sut gall y model hwn helpu bodloni eu targedau
o Ei integreiddio i werthusiad o’r prosiect peilot
Yn ogystal, hwyrach y bydd y contractwr yn gallu:
• Rhannu technegau ac arbenigedd o ran mesur effaith amgylcheddol ehangach megis bioamrywiaeth.
• Rhannu data gwaelodlin i’w ddefnyddio i ddangos effaith dulliau tyfu amgen a gweithio’n lleol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=126352 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|