Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cymorth i gynhalwyr ifainc ar gyfer plant a phobl ifainc 5–18 oed ac i frodyr a chwiorydd sy’n gynhalwyr (h.y. plant sy’n helpu i ofalu am frawd neu chwaer, ac/neu yn cael eu heffeithio gan frawd neu chwaer ag anghenion ychwanegol) 5–18 oed.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddarparu pecyn cymorth penodol i unigolion yn seiliedig ar asesiad statudol o anghenion a deilliannau (wedi'i gwblhau gan Weithiwr Asesu Cynhalwyr Ifainc yr Awdurdod Lleol) gyda chytundeb y cynhaliwr ifanc a'i deulu.
Bydd cymorth yn amrywio yn dibynnu ar anghenion ond bydd yn cynnwys cymorth un-i-un, gweithgareddau grŵp hygyrch, un arhosiad preswyl dros nos y flwyddyn a gweithdai yn seiliedig ar broblemau. Bydd Cynlluniau Darparu Gwasanaeth yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Bydd y gwasanaeth yma'n ymdrechu i sicrhau bod cynhalwyr unigol yn:
1) Derbyn help i wneud y gorau o'u lles corfforol ac emosiynol.
2) Derbyn cymorth i leddfu'r straen sy'n deillio o'u rôl cynhaliol.
3) Gallu cynnal cysylltiadau cymdeithasol a pherthnasoedd personol.
4) Derbyn help i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol ar wahân.
5) Gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ac addysg.
Bydd y contract am gyfnod o 3 blynedd, gydag opsiwn i'w ymestyn am hyd at flwyddyn.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=123371
|