Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfarwyddiadau
1. Mewngofnodwch i Proactis at https://supplierlive.proactisp2p.com
2. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar y porth Proactis, mewngofnodwch a dechreuwch Gam 14 y cyfarwyddiadau hyn, fel arall ewch i GAM 3.
3. Cliciwch ar y botwm “Sign Up” ar waelod y ffenestr.
4. Nodwch Enw, Cyfeiriad a Phrif Fanylion Cyswllt eich Sefydliad Bydd arnoch chi angen creu ID sefydliad ac enw defnyddiwr. Os oes gennych gyfeiriad e-bost generig ar gyfer eich sefydliad e.e. tendrau@xxx.co.uk yna defnyddiwch hwn fel y prif gyfeiriad cyswllt e-bost.
5. Cofiwch gofnodi ID ac Enw Defnyddiwr eich Sefydliad, yna cliciwch ar “Register”.
6. Byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi "Click here to activate your account". Mae hyn yn mynd â chi at sgrin i gyflwyno Manylion eich Sefydliad.
7. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani, cliciwch ar y ">" ar y sgrin a dilyn y cyfarwyddiadau gan sicrhau eich bod yn nodi'r holl fanylion perthnasol.
8. Yn y sgrin Dosbarthiad, sicrhewch eich bod yn dewis y Codau Dosbarthu Cynnyrch (Codau CPV) sy'n ymddangos yn yr hysbysiad tendr. Sicrhewch bod y codau a ddewiswyd yn berthnasol i'ch busnes i sicrhau eich bod yn cael gwybod am gyfleoedd sydd o ddiddordeb.
9. Yn y sgrin Prynwyr dewiswch Cyngor Sir Ddinbych (gallwch gofrestru gyda sefydliadau prynu eraill os dymunwch).
10. Yn y sgrin Prif Fanylion Cyswllt, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gyflawn. (Gweler nodyn 4 uchod)
11. Derbyniwch y Telerau a'r Amodau ac yna cliciwch ar ">". Mae hyn yn mynd â chi i'r ffenestr Groeso.
12. Yn y sgrin Gorffen, rhowch gyfrinair newydd a gwnewch nodyn o’ch holl fanylion Mewngofnodi ar gyfer y dyfodol.
13. Cliciwch ar "Complete Registration", a fydd yn mynd â chi i’r dudalen Rhwydwaith Cyflenwyr.
14. Ar ganol y sgrin, cliciwch ar "Opportunities". Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr o gyfleoedd sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.
15. Cliciwch ar yr ">" sy'n ymwneud â'r hysbysiad hwn; bydd hyn yn mynd â chi i'r PQQ neu'r Cais Tendr, a chliciwch "Register Interest". Mae’n bosibl y bydd nifer o gyfleoedd yn ymddangos ar y sgrin hon, sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir.
16. Yn y sgrin "Your Opportunities" nodwch y dyddiad a'r amser cau ar gyfer cwblhau'r prosiect perthnasol. Adolygwch y tab "Items" (cam Tendr yn unig) a'r tab Dogfennau (PQQ a chamau Tendr) gan y bydd yna wybodaeth yn ymwneud â'r prosiect yma. Mae’r Dogfennau i'w gweld drwy glicio ar y saeth i lawr o dan y tab Cyffredinol. Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho'r holl ddogfennau ar eich cyfrifiadur oherwydd y bydd arnoch chi angen llenwi a llwytho rhai ohonynt fel rhan o'ch cyflwyniad. Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cais yn y ddogfen Canllawiau i Gynigwyr.
17. Yn awr, gallwch greu eich ymateb neu ddewis "Decline" ar gyfer y cyfle hwn.
“Gellir cyflwyno tendrau yn Gymraeg, ni fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn wahanol i dendr a gyflwynir yn Saesneg”.
(WA Ref:139057)
|