Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i sicrhau cyllideb o dros £1.6m ar gyfer y Prosiect Diwyllesiant o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod y prosiect yw hyrwyddo diwylliant a threftadaeth, lles corfforol a byw'n iach, a datblygu economi ymweld cynaliadwy. Mae’r rhaglen Diwyllesiant yn cael ei chyflawni fel prosiect traws-wasanaeth o fewn yr Awdurdod, sydd â’r nod o weithredu ar draws tri maes blaenoriaeth – Diwylliant a Threftadaeth, Byw’n Iach ac Egnïol, a’r Economi Ymweld Cynaliadwy – er budd, ac i gefnogi lles trigolion, cymunedau, busnesau ac amgylchedd Gwynedd.
Un o allbynnau’r prosiect yw gweithredu ymgyrch farchnata ddigidol i hybu’r economi ymweld a chynhyrchu 5,000 o ymwelwyr ychwanegol a gwerth £250,000 o incwm i’r economi a chymunedau lleol.
Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried penodi cwmni gyda chymwysterau addas i ddatblygu a gweithredu ymgyrch farchnata ddigidol i hyrwyddo Ardal Farchnata Twristiaeth Eryri Mynyddoedd a Môr sy'n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyn Llŷn ac Arfordir Ceredigion.
Enw gweithredol yr ymgyrch farchnata ddigidol fydd ‘Lleol i Ni’ gyda’r prif amcanion o hyrwyddo diwylliant, treftadaeth, iaith, tirwedd, cynnyrch lleol, cymunedau a chyfleoedd awyr agored yr ardal.
Bydd angen i'r ymgyrch ystyried yr egwyddorion a amlinellwyd yng Nghynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 wrth ddatblygu asedau’r ymgyrch a’r amrywiol negeseuon marchnata a chyfathrebu. Bydd hyn yn cefnogi ein hamcanion strategol o greu economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.
NODYN: Mae'r dogfennau Cymraeg yn fersiwn Saesneg o'r hysbysiad.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=140604 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|