Manylion cais SPD
Authority Details
Official Name: Comisiynydd y Gymraeg
Country:
Notice Details
Procurement Procedure
Title: Legal Service Framework Contract
Short Decription: The Commissioner requires a 4 year framework agreement for legal advice on a range of subjects and issues relevant to his statutory functions.
File Reference Number: CYG043
Criteria
Gweithdrefn - Gwybodaeth am Lotiau
[C63] Gofynion yn ymwneud â lotiau
Rhowch ragor o wybodaeth am y lotiau yn y contract hwn.
Gellir cyflwyno tendrau ar gyfer: - all lotsGweithdrefn - Codau CPV
[C64] Codau CPV y Weithdrefn Gaffael
Codau CPV y Weithdrefn Gaffael
Codau CPV a ddewiswyd: - 79100000Gwybodaeth am y Cynigydd - Gwybodaeth am y Cynigydd
[2A1] Busnes Bach, Busnes Canolig neu Ficrofusnes
A ydych yn fusnes bach, busnes canolig neu ficrofusnes ai peidio?
[2A3] Math o gyfranogi
A ydych yn cyflwyno cais fel prif gyswllt grwp o weithredwyr economaidd?
[2A4] Is-gontractio
A ydych chi neu, os yw'n gymwys, y grwp o weithredwyr economaidd yn bwriadu defnyddio is-gontractwyr?
[2A5] Ymuno â chofrestr broffesiynol berthnasol
Os yw'n gymwys, a yw eich sefydliad wedi ymuno â'r gofrestr/cofrestrau proffesiynol neu fasnach priodol yr aelod-wladwriaeth lle mae wedi'i sefydlu?
Criteria 1General legal advice to the CommissionerLOT 2LOT 3Cyfarwyddiad | |
---|
Practicing certificate - Solicitors Regulation Authority | |
[2A6] Awdurdodiad neu aelodaeth o sefydliad penodol
Yn y wladwriaeth lle rydych wedi'ch sefydlu, a yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi feddu ar awdurdodiad penodol, neu fod yn aelod o sefydliad penodol er mwyn darparu'r gwasanaethau a nodir yn yr ymarfer caffael hwn?
Gwahardd - Seiliau dros Wahardd yn Orfodol
[3A1a] Trosedd Cynllwyn yn y Gyfraith Gyffredin
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd cyfranogi fel y'i diffinnir yn adran 45 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015
Cynllwyn o fewn ystyr adran 1 neu 1A o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 neu erthygl 9 neu 9A o Orchymyn Ymgeisiau Troseddol a Chynllwyn (Gogledd Iwerddon) 1983, pan fo'r achos hwnnw o gynllwyn yn ymwneud â chyfranogi mewn sefydliad troseddol fel y'i diffinnir yn erthygl 2 o Benderfyniad Fframwaith Cyngor 2008/841/JHA ar y frwydr yn erbyn troseddau cyfundrefnol?
[3A1b] Llygredd
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o Lygredd o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Arferion Llwgr Cyrff Cyhoeddus 1889 neu adran 1 o Ddeddf Atal Llygredd 1906; Trosedd llwgrwobrwyo yn y gyfraith gyffredin; Llwgrwobrwyo o fewn ystyr adran 1, 2 neu 6 o Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010, neu adran 113 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983?
[3A1c] Twyll
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw un o'r troseddau canlynol, lle mae'r drosedd yn ymwneud â thwyll sy'n effeithio ar fuddiannau ariannol Cymunedau Ewropeaidd; fel y'u diffinnir yn Erthygl 1 o'r confensiwn ar ddiogelu buddiannau ariannol Cymunedau Ewropeaidd:
trosedd twyllo cyllid y wlad yn y gyfraith gyffredin;
trosedd cynllwyn twyllo yn y gyfraith gyffredin;
twyll neu ddwyn o fewn ystyr Deddf Dwyn 1968, Deddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1969, Deddf Dwyn 1978 neu Orchymyn Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1978;
masnachu'n dwyllodrus o fewn ystyr adran 458 o Ddeddf Cwmnïau 1985, erthygl 451 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 neu adran 993 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
efadu'n dwyllodrus o fewn ystyr adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 neu adran 72 o Ddeddf Treth ar Werth 1994;
trosedd mewn cysylltiad â threthu yn yr Undeb Ewropeaidd o fewn ystyr adran 71 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1993;
difwyno neu guddio dogfennau neu achosi i sicreb werthfawr gael ei gweithredu o fewn ystyr adran 20 o Ddeddf Dwyn 1968 neu adran 19 o Ddeddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1969;
twyll o fewn ystyr adran 2, 3 neu 4 o Ddeddf Twyll 2006;
meddu ar eitemau i'w defnyddio i dwyllo o fewn ystyr adran 6 o Ddeddf Twyll 2006, neu wneud, addasu, cyflenwi neu gynnig i gyflenwi eitemau i'w defnyddio i dwyllo o fewn ystyr adran 7 o'r Ddeddf honno;
[3A1d] Troseddau terfysgaeth neu droseddau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau terfysgaeth
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd:
a restrir yn adran 41 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008;
a restrir yn atodlen 2 i'r Ddeddf honno lle mae'r llys wedi penderfynu bod cysylltiad â therfysgaeth;
o dan adrannau 44 i 46 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2007 sy'n ymwneud â throsedd a gwmpesir gan y ddau bwynt blaenorol?
[3A1e] Gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o wyngalchu arian o fewn ystyr adrannau 340(11) a 415 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002; Trosedd mewn cysylltiad ag enillion ymddygiad troseddol o fewn ystyr adran 93A, 93B neu 93C o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 neu erthygl 45, 46 neu 47 o Orchymyn Enillion Troseddau (Gogledd Iwerddon) 1996.
[3A1f] Llafur plant a mathau eraill o fasnachu mewn pobl
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd o dan adran 4 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr ac ati) 2004; trosedd o dan adran 59A o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003; trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009; trosedd mewn cysylltiad ag arian sy'n deillio o fasnachu cyffuriau o fewn ystyr adran 49, 50 neu 51 o Ddeddf Masnachu Cyffuriau 1994; trosedd o dan adran 2 neu 4 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015
[3A2a] Talu trethi
Rheoliad 57(3) – Ar gyfer eich sefydliad, a bennwyd drwy benderfyniad barnwrol neu weinyddol, a gaiff effaith derfynol a rhwymol yn unol â darpariaethau cyfreithiol unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu ddarpariaethau cyfreithiol y wlad lle y sefydlwyd eich sefydliad (os yw y tu allan i'r DU), fod eich sefydliad yn torri'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â thalu treth?
[3A2b] Talu nawdd cymdeithasol
Rheoliad 57(3) – Ar gyfer eich sefydliad, a bennwyd drwy benderfyniad barnwrol neu weinyddol, a gaiff effaith derfynol a rhwymol yn unol â darpariaethau cyfreithiol unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu ddarpariaethau cyfreithiol y wlad lle y sefydlwyd eich sefydliad (os yw y tu allan i'r DU), fod eich sefydliad yn torri'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â thalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol?
Gwahardd - Seiliau dros Wahardd yn ôl Disgresiwn
[3B1] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith amgylcheddol
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith amgylcheddol?
[3B2] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith gymdeithasol
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith gymdeithasol?
[3B3] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith llafur
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith llafur?
[3B4a] Methdaliad
A yw'r cynigydd yn fethdalwr?
[3B4b] Ansolfedd
A yw'r cynigydd yn destun camau ansolfedd neu ddirwyn i ben?
[3B4c] Asedau sy'n cael eu gweinyddu gan ddiddymwr
A yw'r cynigydd mewn sefyllfa lle mae ei asedau'n cael eu gweinyddu gan ddiddymwr neu lys?
[3B4d] Cytundeb â chredydwyr
A oes gan y cynigydd gytundeb â chredydwyr?
[3B4e] Gweithgareddau busnes wedi'u gohirio
A yw'r cynigydd mewn sefyllfa lle mae ei weithgareddau busnes wedi'u gohirio?
[3B4f] Sefyllfa debyg i fethadaliad o dan gyfraith genedlaethol
A yw'r cynigydd mewn unrhyw sefyllfa debyg oherwydd gweithdrefn debyg o dan gyfreithiau a rheoliadau cenedlaethol?
[3B5] Euog o gamymddwyn proffesiynol difrifol
A yw'r cynigydd yn euog o gamymddwyn proffesiynol difrifol?
[3B6] Cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill gyda'r nod o ystumio'r gystadleuaeth
A yw'r cynigydd wedi llunio cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill gyda'r nod o ystumio'r gystadleuaeth?
[3B7] Gwrthdaro buddiannau oherwydd ei ran yn y weithdrefn gaffael
A yw'r cynigydd yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro buddiannau o fewn ystyr rheoliad 24 oherwydd ei ran yn y weithdrefn gaffael?
[3B8] Ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r gwaith o baratoi'r weithdrefn gaffael hon
A yw'r cynigydd neu ymgymeriad sy'n ymwneud ag ef wedi cynghori'r sefydliad neu'r endid contractio, neu fel arall wedi ymwneud â'r gwaith o baratoi'r weithdrefn gaffael?
[3B9] Dod â chontract i ben yn gynnar
A yw'r cynigydd wedi dangos diffygion sylweddol neu fynych ym mherfformiad un o'r gofynion parhaol o dan gontract cyhoeddus blaenorol, contract blaenorol ag endid contractio neu gontract consesiwn blaenorol a arweiniodd at ddod â'r contract blaenorol hwnnw i ben yn gynnar, iawndal neu sancsiynau eraill tebyg?
[3B10] Cosbrestru
A ganfuwyd eich bod chi, neu eich sefydliad, wedi bod yn defnyddio'r arfer o 'gosbrestru' yn ystod y tair blynedd diwethaf?
[3B11] Camliwio
Atebwch y datganiadau canlynol:
1) Mae'r sefydliad yn euog o gamliwio difrifol wrth roi'r wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau nad oes sail dros wahardd neu i fodloni'r meini prawf dethol.
2) Mae'r sefydliad wedi cadw gwybodaeth o'r fath yn ôl.
3) Ni all y sefydliad ddarparu dogfennau ategol sydd eu hangen o dan reoliad 59 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
4) Mae'r sefydliad wedi dylanwadu ar broses benderfynu'r awdurdod contractio er mwyn cael gafael ar wybodaeth gyfrinachol a all olygu bod ganddo fantais fawr yn y weithdrefn gaffael, neu wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn esgeulus a all ddylanwadu'n fawr ar benderfyniadau ynghylch gwahardd, dethol neu ddyfarnu.
Dethol - Sefyllfa Economaidd ac Ariannol
[4A1] Cyfrifon Archwiliedig
A allwch ddarparu copi o'ch cyfrifon archwiliedig ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gais?
[4A2] Y sefyllfa economaidd ac ariannol leiaf
Lle rydym wedi nodi'r sefyllfa economaidd ac ariannol leiaf a/neu'r trothwy ariannol isaf ym meini prawf gwerthuso'r ymarfer caffael hwn, cadarnhewch eich bod yn bodloni'r gofynion drwy ateb Ie neu Na.
Y lotiau y mae'r gofyniad yn gymwys iddyntCriteria 1General legal advice to the CommissionerLOT 2LOT 3Cyfarwyddiad | |
---|
Revenue Reserves greater than £0 | |
Criteria 2General legal advice to the CommissionerLOT 2LOT 3Cyfarwyddiad | |
---|
Gearing Ratio less than 2.0 | |
[4A4] Prif Weithgareddau Busnes
Beth yw prif weithgareddau busnes eich sefydliad neu gonsortiwm? Cyfyngwch eich ateb i grynodeb byr.
[4A6] Is-gontractwyr
Os ydych yn defnyddio is-gontractwr/is-gontractwyr neu'n cyflwyno cynnig ar ran consortiwm, pa brosesau sydd gennych ar waith i gadarnhau a yw unrhyw rai o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol i'r sefydliadau eraill hyn?
[4A7] Hyfforddiant cydraddoldeb
A yw'r holl gyflogeion (gan gynnwys y rhai o blith aelodau eich consortiwm lle y bo'n berthnasol) sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd, neu ag aelodau o staff cleient, yn cael hyfforddiant cydraddoldeb?
[4A9] Cofrestru am TAW
Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW?
[4A10] Math o Fusnes
A yw eich sefydliad yn (nodwch bob opsiwn sy'n gymwys): i) gwmni cyfyngedig cyhoeddus ii) cwmni cyfyngedig iii) partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) iv) partneriaeth arall v) unig fasnachwr vi) consortiwm vii) arall (rhowch fanylion).
[4A12] Rhif Cofrestru LLP
Rhowch rif cofrestru eich cwmni neu PAC (os ywn berthnasol).
[4A14] Cymhareb Prawf Asid
A yw eich cymhareb prawf asid yn uwch na'r ffigur a nodwyd yn y canllawiau i'r cwestiwn hwn? Rhaid i'r gymhareb hon gael ei chyfrifo o'ch cyfres ddiwethaf o gyfrifon archwiliedig. Os nad oes gennych gyfrifon archwiliedig, rhowch y gymhareb o'ch cyfres ddiwethaf o gyfrifon diwedd blwyddyn. Caiff y gymhareb ei diffinio fel a ganlyn: = (Arian Parod + Cyfrifon Derbyniadwy + Buddsoddiad Byrdymor) wedi'u rhannu â (Rhwymedigaethau Cyfredol) DS. Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i roi eich cymhareb prawf asid cyn dyfarnu'r contract, os bydd angen, ac yn ddi-oed, a disgrifio sut y gwnaethoch gyrraedd y ffigur hwn. Os ydych yn cyflwyno cynnig ar ran consortiwm, dylai eich ateb gynnwys ffigur cyfanredol (swm yr asedau cyfredol wedi'i rhannu â swm y rhwymedigaethau) gan bob aelod o'r consortiwm.
Y lotiau y mae'r gofyniad yn gymwys iddyntCriteria 1General legal advice to the CommissionerLOT 2LOT 3[4A15] Cyfrifon
Rhowch gyfrifon ar gyfer y ddwy flynedd ariannol a ddaeth i ben ddiwethaf. Os yw'n bosibl, cyflwynwch gyfrifon archwiliedig. Rhowch y wybodaeth hon ar gyfer pob aelod o gonsortiwm os ydych yn cyflwyno cynnig fel consortiwm.
[4A17] Manylion rhiant-gwmni
Os yw eich sefydliad yn is-gwmni o dan berchenogaeth lwyr neu'n gwmni masnachu neu gwmni daliad mwy o faint, rhowch rif cofrestru'r rhiant-gwmni. Rhowch y wybodaeth hon ar gyfer pob aelod o gonsortiwm os ydych yn cyflwyno cynnig fel consortiwm.
[4A19] Taliad Prydlon gan Gyflenwr
Cadarnhewch y byddwch yn talu pob cyflenwr ac is-gontractiwr o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, a fydd yn 30 diwrnod ar y mwyaf.
Dethol - Gallu Technegol a Phroffesiynol
[4B2] Is-gontractio cyfran
Os ydych yn bwriadu is-gontractio cyfran o'r contract, nodwch sut rydych wedi cynnal cadwyni cyflenwi iach gyda'ch is-gontractiwr/is-gontractwyr yn y gorffennol
Dylai tystiolaeth gynnwys gwybodaeth am eich systemau rheoli cadwyni cyflenwi i sicrhau y caiff y contract ei gyflawni a thalu aelodaeth o God Talu Prydlon y DU (neu gynlluniau cyfatebol mewn gwledydd eraill) yn brydlon, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn
Dethol - Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
[4C1] Y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern
A ydych yn sefydliad masnachol perthnasol fel y'i diffinnir yn adran 54 ("Tryloywder mewn cadwyni cyflenwi ac ati") o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ("y Ddeddf")?
Dethol - Yswiriant
[4D1] Yswiriant – Atebolrwydd Cyflogwr (Gorfodol)
Cadarnhewch a oes gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr (Gorfodol) ar y lefel a nodir isod eisoes, neu a allwch ymrwymo i'w gael, cyn dechrau'r contract:
[4D3] Yswiriant – Indemniad Proffesiynol
Cadarnhewch a oes gennych Yswiriant Indemniad Proffesiynol ar y lefel a nodir isod eisoes, neu a allwch ymrwymo i'w gael, cyn dechrau'r contract:
Y lotiau y mae'r gofyniad yn gymwys iddyntCriteria 1General legal advice to the CommissionerLOT 2LOT 3Dethol - Dur
[4F7] Polisïau Iechyd a Diogelwch
A ydych yn cymryd camau i sicrhau bod gan bob aelod o'ch cadwyn gyflenwi bolisïau iechyd a diogelwch priodol sy'n ymdrin â'r canlynol o leiaf:
- Datganiad Polisi – gyda llofnod a'r dyddiad arno
- y Sefydliad a Chyfrifoldebau
- sut y caiff gofynion Iechyd a Diogelwch eu rhoi ar waith;
- a'r Trefniadau – safonau a gweithdrefnau a gaiff eu mabwysiadu'n ymarferol,
a bod y rhain yn cael eu hadolygu o leiaf bob dwy flynedd?
[4F9] Rhagor o Dystiolaeth
Os gwnaethoch roi ateb cadarnhaol i'r ddau gwestiwn uchod, nodwch yn fras pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod polisïau iechyd a diogelwch priodol ar waith a bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi.
Dethol - IT
[4I1] Cynllun Ardystio a Hanfodion Seiber
Cadarnhewch eich bod yn bodloni gofynion y Cynllun Ardystio Hanfodion Seiber neu gynllun cyfatebol ar hyn o bryd, neu y byddwch yn eu bodloni os byddwch yn llwyddiannus. Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i roi tystiolaeth os bydd angen, yn ddi-oed, cyn dyfarnu'r contract.
Dethol - Iechyd a Diogelwch
[4J1] Gorchmynion Gorfodi Iechyd a Diogelwch
A yw eich sefydliad neu unrhyw un o'i Gyfarwyddwyr neu Swyddogion Gweithredol wedi bod yn cael gorchmynion gorfodi/adferol mewn perthynas â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (neu gorff cyfatebol) yn ystod y tair blynedd diwethaf?
[4J2] Gorchmynion Gorfodi Iechyd a Diogelwch
Os byddwch yn defnyddio is-gontractwr/is-gontractwyr neu'n cyflwyno cynnig ar ran consortiwm, a oes gennych unrhyw brosesau ar waith i gadarnhau a yw unrhyw rai o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol i'r sefydliadau eraill hyn? Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i roi tystiolaeth os bydd angen, yn ddi-oed, cyn dyfarnu'r contract.
[4J3] Polisi Iechyd a Diogelwch
Cadarnhewch fod gan eich cwmni Bolisi Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i roi tystiolaeth os bydd angen, yn ddi-oed, cyn dyfarnu'r contract.
[4J4] Polisi Iechyd a Diogelwch
A oes gennych berson cymwys a enwebwyd sy'n gyfrifol am gyngor Iechyd a Diogelwch?
Dethol - Amgylchedd
[4K1] Polisi Amgylcheddol
A yw eich sefydliad wedi'i gollfarnu am dorri deddfwriaeth amgylcheddol, neu wedi cael hysbysiad yn ystod y tair blynedd diwethaf gan unrhyw reoleiddiwr neu awdurdod amgylcheddol (yn cynnwys awdurdod lleol)?
[4K2] Polisi Amgylcheddol – Is-gontractio
Os ydych yn defnyddio is-gontractiwr/is-gontractwyr, neu'n cyflwyno cynnig ar ran consortiwm, a oes gennych brosesau ar waith i gadarnhau a yw unrhyw un o'r sefydliadau hyn wedi'u collfarnu neu wedi cael hysbysiad ynghylch torri deddfwriaeth amgylcheddol?
[4K4] Polisi Amgylcheddol
A oes gennych ddatganiad polisi amgylcheddol sy'n ymrwymo eich sefydliad i raglen gwella?
Dethol - Rheoli Ansawdd
[4L1] Polisi Rheoli Ansawdd
A ydych yn gweithredu yn unol â System Rheoli Ansawdd a ardystir gan drydydd parti a achredir gan UKAS (neu sefydliad cenedlaethol sylfaenol) yn erbyn ISO 9001 neu safon gyfatebol? Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i roi tystiolaeth os bydd angen, yn ddi-oed, cyn dyfarnu'r contract.
[4L2] Polisi Rheoli Ansawdd
A oes gennych broses wedi'i dogfennu a gynlluniwyd i sicrhau bod ansawdd eich cynhyrchion neu wasanaethau yn gyson?