Ben Giles – Ultima Cleaning:
“Fy musnes i yw Ultima Cleaning Ltd. Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli yn Aberteifi, wedi bod yn masnachu ers 2000. Rydym yn cynnig gwasanaeth glanhau ledled gorllewin Cymru yn cynnwys yr holl wasanaethau glanhau arferol...glanhau carpedi, glanhau ffenestri, glanhau swyddfeydd, glanhau ar ôl gwaith adeiladu ac ati...fodd bynnag, sylweddolom fod marchnad arbenigol yr oedd angen ei llenwi ac, am yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn arbenigo mewn glanhau safleoedd troseddau a damweiniau traffig, casglu nodwyddau hypodermig, glanhau ar ôl achosion o glefydau, glanhau eiddo brwnt, dadlygru celloedd yn y ddalfa a cherbydau'r heddlu.
"Rydym wedi datblygu cwrs hyfforddi achrededig cenedlaethol ac wedi hyfforddi dros 400 o gwmnïau ledled y wlad - rydym bellach yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol gyda chyfraddau cenedlaethol ac opsiwn galw allan 2 awr cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau glanhau bioberyglon.
"Rydym wedi bod yn defnyddio GwerthwchiGymru ers tua chwe blynedd a llwyddom i ennill contract gyda Phrifysgol Aberystwyth i lanhau llety myfyrwyr. Roedd yr effaith yn dda. Sylweddolom ein bod nid yn unig yn bodloni'r meini prawf ariannol, ond ein bod hefyd yn bodloni'r gofyniad i ddarparu gwasanaeth o safon. Roedd y contract hwn yn werth tua £70,000.00 i'n cwmni.
"Yn bersonol, rwy'n sylweddoli bod y rhan fwyaf o dendrau yn cael eu dyfarnu yn seiliedig ar faint a throsiant cwmni. O ganlyniad, nid wyf bob amser yn tendro am gontractau sy'n rhy fawr i ni eu hennill yn fy marn i. Rwy'n aros tan bod y contract wedi'i ddyfarnu - pan roddir yr hysbysiad o ddyfarniad a GwerthwchiGymru - rwy'n darllen y dyfarniad ac yna'n cysylltu â'r cwmni llwyddiannus i'w llongyfarch ar eu llwyddiant ac yna'n cynnig ein gwasanaeth ni fel is-gontractwr - drwy wneud hyn, mae ein cwmni wedi ennill contractau gyda chynigwyr llwyddiannus ac wedi meithrin partneriaethau gwych yn seiliedig ar ein gwybodaeth leol, ein hymateb cyflym a'n lleoliad, sydd wedi'n helpu i lwyddo.
"Os nad ydych yn ennill contract a bod cwmni mawr yn llwyddo i wneud hynny, peidiwch â theimlo eich bod yn gorfod ystyried y cwmni hwnnw fel eich gelyn! Dysgwch i gydweithio â'r cwmni hwnnw. Hefyd, ystyriwch beth mae'r cleient yn chwilio amdano...gwybodaeth leol, llif arian parod, ymateb cyflym, tystiolaeth hanesyddol o wasanaeth, trosiant, strwythur rheoli ac ati...yna penderfynwch sut y gallwch ddiwallu ei anghenion."