Ceir pedwar
ymgynghorydd amser llawn a gefnogir gan bartneriaid cyswllt, a chanddynt hanes
o helpu busnesau preifat a sector cyhoeddus gyda'u harbenigedd, eu cyngor a'u
canllawiau. Ymhlith eu cryfderau mae, dechrau busnes;
datblygu a thwf uchel, rheoli newid, technoleg gwybodaeth, cyfathrebu marchnata
a rheoli gweithrediadau.
Gydag is-swyddfeydd ym Mangor a Henffordd, mae
ymgynghorwyr yn gweithio ledled Cymru, y DU ac Ewrop.
Mae GwerthwchiGymru yn
elfen allweddol yn ein strategaeth fusnes gan ein helpu i nodi a chyflwyno
tendrau perthnasol. O ganlyniad, rydym
wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau contractau niferus gan gynnwys:
rhaglen e-fusnes 2004 hyd yma
Technoleg
ac Arloesedd (2006)
Gwasanaeth
Cynghori Busnes Cyffredinol (2006)
Rheoli
Seiliedig ar Weithgarwch (2002 – 2005)
Rhaglen
Genba Kanri (1996 – 2005)
Rhwydweithiau
Gwasanaeth (2004)
Drwy gyflawni'r
contractau fframwaith hyn rydym wedi cynorthwyo cannoedd o fusnesau bach a chanolig eu maint. Yna mae
Principality Consulting yn cyflwyno'r atebion – wedi'u hategu gan y dechnoleg
orau. Lle y bo'n bosibl, rydym yn nodi
cyllid pellach i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu gwireddu.
Rydym yn aml yn rhannu
ein harfer o ddefnyddio GwerthwchiGymru fel offeryn gwybodaeth am y
farchnad/ymchwil. Mae hyn yn golygu
monitro'r dyfarniadau contract amrywiol a hysbysebir i nodi'r potensial ar
gyfer cyfleoedd i is-gontractio a sicrhau ein bod yn teimlo naws yr amgylchedd
cystadleuol bob amser.