Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Mae'r rhaglen hon yn chwilio am brosiectau cydweithredol sy'n cael eu harwain gan fusnesau ac sy'n cynnwys o leiaf dri phartner:
● Os ydych chi’n gwneud cais ar gyfer y Gronfa i Fusnesau Micro a Busnesau Bach, dyma ddiffiniadau’r DU: ○ busnes micro = llai na 10 o weithwyr a throsiant neu gyfanswm mantolen flynyddol o dan €2 filiwn; ○ busnes bach = llai na 50 o weithwyr a throsiant neu gyfanswm cyfriflen flynyddol o dan €10 miliwn
● Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint busnesau sy’n gallu ymgeisio ar gyfer Prif Gronfa’r Her;
● Mae’n rhaid i fusnesau bach a chanolig canolig (50 i 249 o weithwyr gyda throsiant blynyddol gyfanswm mantolen flynyddol o dan €50 miliwn) fod yn aelod o Glwstwr Bwyd a Diod Cymru wrth ymgeisio. Mae rhagor o wybodaeth am y Clystyrau Bwyd a Diod yng Nghymru ar gael yma: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/clystyrau
Mae’n rhaid i'r prosiect hefyd gynnwys un (neu fwy) o'r sefydliadau canlynol fel partner:
o Aber Innovation
○ Prifysgol Aberystwyth
○ AMRC
○ Canolfan BioComposites (Prifysgol Bangor)
○ Prifysgol Caerdydd
○ Cywain
○ Arloesedd Bwyd Cymru
■ ZERO2FIVE Canolfan Diwydiant Bwyd – Prifysgol Metropolitan Caerdydd
■ Canolfan Bwyd Cymru - Horeb, Ceredigion
■ Canolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai, Gogledd Cymru
○ Sgiliau Bwyd Cymru
○ Diwydiant Cymru
○ Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy
● Gall gweddill y partneriaid er enghraifft fod yn fusnesau bwyd a diod eraill, busnesau eraill yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, manwerthu, cwmniau gwasanaeth bwyd, sefydliadau ymchwil, banciau, sefydliadau sector cyhoeddus neu Clwstwr Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru (gweler rhestr islaw). Gall busnesau/ sefydliadau fod wedi'u lleoli y tu allan i'r DU.
■ Clwstwr Prif Weithredwyr
■ Clwstwr Diodydd
■ Clwstwr Allforio
■ Clwstwr Bwyd Da
■ Clwstwr Mêl
■ Clwstwr Garddwriaeth
■ Clwstwr Maeth Cymru
■ Clwstwr Bwyd Môr
■ Clwstwr Cynaliadwyedd
|